DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEIT

 

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022

DYDDIAD

22 Mawrth 2022

GAN

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

 

 

Rhoddodd Deddf y Coronafeirws 2020 (y Ddeddf) bwerau brys  i Weinidogion Cymru i ymateb i’r pandemig. Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020. Bydd y rhan fwyaf o'r darpariaethau dros dro yn y Ddeddf yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 24 Mawrth.

 

Rwyf heddiw wedi gosod Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 i estyn dwy ddarpariaeth dros dro am gyfnod o chwe mis.

 

Dyma’r darpariaethau:

 

Adran 82 – Tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc

 

Mae adran 82 yn darparu na chaniateir gorfodi hawl ailfynediad neu fforffediad, o dan denantiaeth fusnes berthnasol, am beidio â thalu rhent, drwy weithredu neu fel arall, yn ystod y "cyfnod perthnasol".

 

Cyflwynwyd y moratoriwm i gyfyngu ar yr effaith sylweddol ar fusnesau yn sgil y gyfres o ymyriadau a chyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar economi Cymru drwy gydol y pandemig.  Cafodd y darpariaethau hyn eu cynnwys fel ymyriad i fynd i'r afael â'r materion dan sylw – yn enwedig llif arian.

 

Yn wreiddiol, diwedd y cyfnod perthnasol ar gyfer y ddarpariaeth hon oedd 30 Mehefin 2020. Wedyn, cytunodd Gweinidogion Cymru i estyn y moratoriwm ar sawl achlysur. Yn fwyaf diweddar, cafodd y "cyfnod perthnasol" ei estyn mewn perthynas â Chymru tan 25 Mawrth 2022 gan Reoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2021.

 

Mae hyn wedi rhoi gwarchodaeth i denantiaid busnes perthnasol tra hefyd yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws). Mae'r Bil hwn yn mynd rhagddo drwy Senedd y DU ar hyn o bryd a disgwylir iddo ddiogelu’n barhaus tenantiaethau busnes sy'n dod o fewn cwmpas y Bil, tra hefyd yn darparu ar gyfer cyfundrefn gyflafareddu bwrpasol mewn rhai amgylchiadau. 

 

Bwriad y cynnig i estyn Adran 82 yw parhau i roi’r cyfle i Weinidogion Cymru estyn y cyfnod perthnasol os ystyrir ei fod yn ofynnol yng nghyd-destun y Bil.

 

 

Adran 38 (Atodlen 17)– Parhad dros dro: addysg a hyfforddiant a gofal plant

 

Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau parhad dros dro i sefydliadau addysgol, darparwyr gofal plant cofrestredig ac awdurdodau lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd camau rhesymol – neu gamau penodol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn rhesymol – mewn cysylltiad â darparu addysg, hyfforddiant, gofal plant (neu wasanaethau sy'n ymwneud â'r rhain), neu wasanaethau a chyfleusterau ategol, am gyfnod penodedig.

Cyn rhoi'r cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw gyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru (neu ei ddirprwyon) sy'n ymwneud â mynychder achosion o’r coronafeirws, neu ei drosglwyddiad, a rhaid iddynt benderfynu bod rhoi'r cyfarwyddyd yn gam angenrheidiol a chymesur ar gyfer neu mewn cysylltiad â pharhau i ddarparu, fel y bo'n berthnasol, addysg,  hyfforddiant neu ofal plant ac yn y blaen. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi hysbysiadau i ddatgymhwyso neu addasu, am gyfnod o fis, ofynion statudol penodol mewn addysg a gofal plant, pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn fod rhoi’r  hysbysiad yn gam priodol a chymesur o dan yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â mynychder achosion o'r coronafeirws neu drosglwyddiad y coronafeirws.

 

Er nad oes gofyniad i estyn y darpariaethau gofal plant neu addysg uwch neu addysg bellach, efallai y bydd angen ystyried pwerau i ysgolion ddatgymhwyso neu addasu gofynion penodol, os bydd tarfu sylweddol pellach yn ystod y flwyddyn academaidd hon o ganlyniad i’r pandemig.

 

Mesur wrth gefn yw hwn i raddau helaeth – nid ydym yn cynllunio nac yn disgwyl defnyddio'r ddarpariaeth hon yn y cyfnod ymestyn o chwe mis oni bai bod angen.

 

Mae dadl ar y Rheoliadau wedi’i threfnu ar gyfer 29 Mawrth.